Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth am Mohammed Ali Ege o Gaerdydd sydd wedi dianc o ddalfa’r heddlu yn India ychydig dros wythnos yn ôl.

Maen nhw’n awyddus i’w holi am lofruddiaeth Aamir Siddiqi y tu allan i’w gartref yn y Rhath, Caerdydd, ym mis Ebrill 2010.

Er bod dau ddyn wedi cael eu carcharu am oes am drywanu’r llanc 17 oed, mae ymchwiliad yr heddlu i’r achos yn parhau.

Roedd Mohammed Ali Ege yn disgwyl am gael ei estraddodi, ond llwyddodd i ddianc wrth iddo gael ei gymryd i wrandawiad llys yn New Dehli.

Mae Mohammed Ali Ege – sydd bellach yn 39 oed – yn dod o ardal Glanrafon yng Nghaerdydd ond mae ganddo gysylltiadau hefyd â phobl mewn ardaloedd cyfagos.

“Mae ei ddihangfa yn peri gofid mawr i deulu Aamir sydd wedi disgwyl yn amyneddgar am y saith mlynedd ddiwethaf am gyfiawnder,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Ceri Hughes o Heddlu De Cymru.

“Credwn fod rhywun yn y wlad yma’n gwybod rhywbeth am lle mae Mohammed Ege, a phwyswn ar bobl o’r fath i gysylltu â ni ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555111 gan ddefnyddio cyfeirnod 1700150924.”