Dechrau a diwedd y daith (o wefan Aren Cymru)
Fe fydd tri dyn yn dechrau fory ar fis o daith gerdded o amgylch Cymru i ddathlu 50 mlwyddiant elusen amlwg.

Fe fydd y tri’n galw mewn 25 o drefi ac yn ymweld ag 16 o ganolfannau dialysis er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith Aren Cymru a chodi arian ar ei chyfer.

Ar y ffordd, fe fyddan nhw’n siarad gyda chleifion a theuluoedd i glywed eu profiadau ac mae un cerddwr yn pwysleisio mai profiad o’r fath a wnaeth iddo ef gefnogi’r elusen.

“Roedd gwylio fy ewythr yn dioddef o effeithiau clefyd arennau yn ddirdynnol, ac roedd clywed nad oeddwn i’n gallu rhoi un o’m harennau i’w helpu wedi fy ngwneud i’n benderfynol o’i helpu mewn ffyrdd eraill,” meddai’r cyn-filwr Gerwyn Taylor sydd wedi bod yn codi arian i Aren Cymru ers blynyddoedd.

Y daith

Y ddau gerddwr arall fydd Roy Thomas, prif weithredwr yr elusen, a chefnogwr arall, y meddyg teulu Chris Williams.

Fe fydd y daith, Cerdded Cymru, yn cychwyn yng Nghastell Caerdydd cyn mynd tua’r Gorllewin a’r Gogledd ac yn ôl trwy’r Canolbarth i orffen yng Nghanolfan Plant Aren Cymru yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Roedd yr elusen yn amlwg yn codi arian at honno ac roedd hefyd wedi cyfrannu at adnoddau dialysis mewn trefi fel Caerfyrddin, Hwlffordd a Merthyr.