Mae’r elusen Tenovus yn dathlu 50 mlynedd o gynnal gwaith ymchwil arloesol i ganser yng Nghymru heddiw.

Ers iddo agor ar 14 Ebrill 1967, mae Sefydliad Ymchwil Canser Tenovus yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd wedi gwneud darganfyddiadau pwysig.

Yn 1975, darganfu ymchwilwyr yn y sefydliad fod math o bilsen atal cenedlu yn effeithiol iawn am rwystro twf rhai mathau o ganser y fron. Fe wnaeth hyn arwain at ddatblygu Tamoxifen, sy’n cael ei ddefnyddio gan filiynau o ferched bellach i drin ac atal canser y fron.

Fe wnaeth ymchwilwyr yn y Sefydliad chwarae rhan allweddol hefyd wrth ddatblygu’r cyffur Zoladex, sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth i drin cleifion canser y fron a chanser y prostad.

Mae Tenovus yn dal i ariannu gwerth £1miliwn o ymchwil canser yng Nghymru, gyda 43 o brosiectau yn edrych ar 10 o wahanol fathau o ganser.

“Rydym yn hynod falch o’n hanes hir ac anrhydeddus o ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf,” meddai Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil a Chymorth Tenovus.

“Yr unig ffordd y gallwn barhau ein gwaith  hanfodol yw trwy gyfraniadau caredig gan aelodau o’r cyhoedd. Heb y fyddin o gefnogwyr allen ni ddim dal i ariannu ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion canser a’u hanwyliaid. Diolch i bawb sydd wedi’n helpu ni i wireddu hyn dros y 50 mlynedd diwethaf.”