Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn achosion o anrhefn yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Bu dau achos cysylltiedig – y naill ar Ffordd Glyndŵr yn Nhrelái am 19.15yh, ac un arall ar Rodfa Tatem yn Y Tyllgoed am 20.50yh.
Roedd sawl dyn ifanc yn rhan o’r digwyddiadau, ac mae dau o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae heddlu yng Nghaerdydd wedi bod yn cynnal patrolau ychwanegol, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw oedd yn yr ardaloedd neithiwr i gysylltu â’r heddlu ar y rhif 101.