Joseph Smith (Llun: Heddlu De Cymru)
Fe fydd dyn 23 oed yn cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl i lys ei gael yn euog o ladd plentyn pum mlwydd oed ei bartner drwy yrru’n beryglus.

Cafwyd Dean Collins yn euog o’r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd brynhawn ddoe.

Cafodd pump o bobol eraill eu hanafu yn y gwrthdrawiad ben-ben yn Llandaf ar Fedi 13, 2015, dri mis yn unig ar ôl iddo basio’i brawf.

Clywodd y llys fod y gyrrwr wedi pasio cerbydau eraill yn anghyfreithlon ac wedi tynnu i ffwrdd o oleuadau traffig yn rhy gyflym cyn y gwrthdrawiad. Fe lywiodd ei gar i ochr arall y ffordd ddeuol cyn taro i mewn i gar arall gan ladd Joseph Smith.

Mae lle i gredu ei fod yn defnyddio ffôn symudol cyn y gwrthdrawiad hefyd, a’i fod e wedi cymryd cocên.

Cafodd euogfarn unfrydol i bum cyhuddiad ei gyhoeddi yn y llys ar ôl achos oedd wedi para pum niwrnod.

Cafwyd e’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, a phedwar cyhuddiad o achosi anafiadau drwy yrru’n beryglus.

Bydd yn cael ei ddedfrydu am 2 o’r gloch.