Mae dau berson wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhorth Amlwch dros nos.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw tua 3 o’r gloch bore dydd Llun i Stryd y Capel, Porth Amlwch ar Ynys Môn.
Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth: “Cafodd y tân ei ddechrau gan ddadleithydd [dehumidifier] diffygiol.”
Mae’r ddau berson yn cael eu trin am effeithiau anadlu mwg.