Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n dal i geisio diffodd tân gwair yn ardal Llangollen y bore yma.

Fe gafodd criwiau eu galw i’r ardal tua 10 o’r gloch nos Sul i’r tân oedd yn llosgi ar fryniau Panorama.

Mae criwiau’n parhau ar y safle heddiw yn monitro’r achos.