Mae angen i Lywodraeth Cymru gwella’r cymorth sydd ar gael i ffoaduriaid a ceiswyr lloches, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mewn adroddiad ar driniaeth ffoaduriaid a ceiswyr lloches mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnig 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Mae’r pwyllgor yn galw am “gamau gweithredu pellach” gan gynnwys gwelliannau i’r cyngor sydd ar gael yn ystod y broses geisio lloches a mynd i’r afael â chwynion am lletyau lloches.

Hefyd mae’r pwyllgor am weld “Gwasanaeth Gwarcheidwaeth” yn cael ei sefydluar gyfer plant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.

“Cymorth cywir yn hanfodol”

“Rydym wedi amlinellu’r hyn yr ydym yn credu eu bod yn feysydd allweddol i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl sydd wedi eu dadleoli,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.

“Mae’n hanfodol bod y cymorth cywir ar gael iddyn nhw pan fyddan nhw’n cyrraedd Cymru, er mwyn iddynt allu cymryd rhan lawn ym mywyd Cymru a byw bywydau llawn yn eu cymunedau newydd.”