Mae cwmni sy’n datblygu technoleg filwrol wedi derbyn cytundeb £330m gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a bydd yn creu 125 o swyddi newydd yng Nghwm Derwen, Sir Caerffili.

Bydd y cytundeb yn galluogi General Dynamics UK i gynllunio a datblygu system gyfathrebu fydd yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin.

Bydd y system yn cael ei ddefnyddio i hwyluso’r defnydd o radio a rhaglenni cyfathrebu.

Fe agorodd General Dynamics eu safle cyntaf yn ne Cymru yn 2001, a bellach mae gan y cwmni dri safle yng Nghwm Derwen a Merthyr Tudful.

 “Newyddion gwych”

“Mae hwn yn newyddion gwych. Mae General Dynamics yn gwmni angori gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth am flynyddoedd lawer i gefnogi eu twf yn ne Cymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates.

“Rydw i’n edrych ymlaen at ymweld â safle General Dynamics ym Merthyr yr wythnos nesaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yno.”