Mae un o golofnwyr Y Cymro, sy’n cadeirio grwp Cyfeillion Y Cymro sy’n ceisio mynd ati i achub y papur, yn dweud na fedr “barhau fel y mae o”.
Ddydd Gwener, fe ddaeth pedwar o bobol ynghyd yn Nolgellau i drafod ffordd ymlaen. Mae golwg360 yn deall y bydd nifer o bosibiliadau’n cael eu hystyried – o’i gadw yn bapur newydd wythnosol ar bapur a’r We i geisio sefydlu papur dyddiol digidol.
Ynghynt yr wythnos yma, roedd ysgogydd y cyfarfod, Gruff ‘MC Mabon’ Meredith, wedi pwysleisio’r angen o gael y papur yn ôl i ddwylo Cymreig annibynnol.
Fe ddywedodd fod pobol o bob rhan o Gymru’n dangos diddordeb mewn ceisio achub y papur a gafodd ei sefydlu yn 1932.
‘Y ffordd ymlaen’
“Fedra’i ddim deud llawer am y cyfarfod ddydd Gwener,” meddai Iestyn Jones. “Rydan ni wedi cytuno fod Y Cymro yn methu parhau fel mae o. Mae cwpwl o opsiyne. Mae pethau angen newid.
“Dydi o ddim yn secret fod y papur ddim yn gwneud yn dda. Dydi Tindle Newspapers [y perchnogion] ddim yn gwneud pres. Diwedd y gân ydi’r geiniog.
“Dw i wedi bod yn sgwennu i’r Cymro ers dros ddeng mlynedd rŵan. Dw i’n mynd i wneud be’ fedra’ i.”
Dywedodd ei fod e wedi ysgrifennu llythyr at gwmni Tindle yn y gobaith o drefnu cyfarfod y mis yma i drafod y ffordd ymlaen.
“Unwaith maen nhw wedi cael y llythyr ac rydan ni wedi cyfarfod efo nhw, byddwn ni’n medru siarad mwy am be’ ydan ni’n bwriadu gwneud. Mae gyda ni lot o syniadau. Dan ni’n bendant yn mynd i newid pethau, am y gorau gobeithio.
“Ond rydan ni mewn sefyllfa i ddeud, os mae rhywun eisiau helpu mewn unrhyw ffordd, mae croeso iddyn nhw e-bostio fi – iestyn54@hotmail.com. Rydan ni angen dipyn bach o lwc ac ewyllys da.”