Pwerdy llosgi glo Aberddawan (Nigel Homer CCA2.0)
Mae mudiad sy’n ymgyrchu i gau gorsaf drydan fawr yn ne Cymru yn dweud bod y ffigurau amgylcheddol diweddara’ yn cadarnhau eu barn.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae ystadegau sy’n dangos gostyngiad mewn nwyon tŷ gwydr ar draws gwledydd Prydain yn dangos bod rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio glo.
Maen nhw’n ymgyrchu ers tro i gau gorsaf drydan Aberddawan ym Mro Morgannwg, un o’r gorsafoedd llosgi glo mwya’ yng ngwledydd Prydain.
Er bod disgwyl i’r orsaf gau yn y 2020au, mae’r mudiad eisiau i Lywodraeth Cymru bwyso i’w chau ynghynt.
Croesawu ffigurau newydd
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi croesawu’r ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Adran Dros Strategaeth Diwydiant, Ynni a Busnes sy’n dangos bod lefelau nwyon tŷ gwydr ar draws y Deyrnas Unedig wedi syrthio 6% yn ystod y llynedd.
Yn ôl yr Adran, un o’r prif resymau am hynny oedd llai o ddefnydd o lo i gynhyrchu trydan a’r ffaith fod gwaith dur Redcar wedi cau gan roi’r gorau i losgi glo.
“Mae’r neges o’r data’n glir bod angen cael diwedd ar ddefnyddio glo a gweithreydd glo brig a pharhau yr ymrwymiad i beidio â ffracio,” meddai llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru.
Maen nhw’n dadlau hefyd mai presenoldeb pwerdy Aberddawan yw’r prif reswm tros gynnal gweithfeydd glo brig yn y De.
Rhai o’r ffigurau
Yn y sector egni, mae lefelau carbon deuocsid wedi syrthio i 54% lefel 1990, y flwyddyn sylfaen ar gyfer mesur nwyon tŷ gwydr.
Ar y cyfan mae allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig wedi syrthio 42% ers 1990.