Carwyn Jones (llun teledu senedd)
Fe ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi cael llais yn y broses o greu’r Papur Gwyn sydd wedi ei gyhoeddi heddiw i egluro sut y bydd Llywodraeth Prydain yn delio gydag ochr gyfreithiol Brexit.

Dyna feirniadaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ôl i’r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi heddiw ac fe addawodd y bydd yn ceisio sicrhau nad yw’r Mesur Diddymu Mawr, a fydd yn trosglwyddo deddfau o Ewrop i wledydd Prydain, ddim yn “sathru” ar ddatganoli.

Fe alwodd hefyd ar Lywodraeth Prydain i drafod gyda’r tri llywodraeth arall ac i sefydlu trefn annibynnol i ddatrys anghytundeb – consensws a chytundeb oedd yr ateb, meddai.

“Hanfodol cael pethau’n iawn”

“Rhaid i’r Mesur terfynol warchod datganoli,” meddai Carwyn Jones. “Bydd pob cyfraith yn cael effaith uniongyrchol ar bobol Cymru, ein cyflogwyr a buddsoddwyr posib. Mae’n hanfodol cael hyn yn iawn.”

Mae llawer o’r trafod ynghylch y grymoedd fydd yn dod yn ôl o Frwsel i wledydd Prydain – dadl Llywodraeth Cymru a’r Alban yw y dylai popeth mewn meysydd sydd wedi’i datganoli ddod yn ôl i’r gwledydd hynny.

Ond fe awgrymodd Carwyn Jones fod problemau ar y ffordd: “Tra bod y Papur Gwyn yn ei siarad am gynyddu gallu’r llywodraethau datganoledig i wneud penderfyniadau, dyw hi ddim yn glir ein bod yn cytuno ar ble mae’r pwerau ar hyn o bryd na sut y dylen ni weithredu at y dyfodol.”