Rhan o'r Rhinogydd (Velela 2.5)
Mae gwasanaeth newyddion lleol ym Milton Keynes bellach yn dweud mai pump aelod o’r un teulu oedd y rhai a fu farw yn y ddamwain hofrennydd yn Eryri.

Mae’r Milton Keynes Citizen wedi cyhoeddi stori’n dweud mai adeiladwr Kevin Burke oedd biau’r hofrennydd ac mai’r gred yw fod y pedwar arall yn rhan o’i deulu.

Yn ôl y gwasanaeth, roedd ei wraig, Ruth, hefyd yn un o’r pump yn ogystal â’i frawd, a brawd Ruth Burke a’i wraig yntau.

Mae’n ymddangos nad oedd plant y cwpwl yn yr hofrennydd a oedd ar daith fusnes o dde-ddwyrain Lloegr i Iwerddon.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau erbyn hyn mai ym mynyddoedd y Rhinogydd y digwyddodd y ddamwain toc ar ôl pedwar brynhawn ddoe.