M
Elaine Edwards (Llun Golwg360)
ae undeb athrawon wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru bod canran uchel o athrawon y wlad wedi bod yn ystyried gadael y proffesiwn.

Mae UCAC yn dweud bod angen defnyddio pwerau newydd i osod cyflogau ac amodau gwaith athrawon Cymru er mwyn lleihau’r baich arnyn nhw.

Mae yna beryg y bydd y broblem yn troi’n argyfwng, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Elaine Edwards, wrth i aelodau baratoi ar gyfer eu cynhadledd flynyddol.

‘Pryder gwirioneddol’

Yn ôl yr undeb, roedd arolwg ymhlith 450 o athrawon wedi dangos bod 70% wedi ystyried gadael yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.

“A ninnau ar drothwy datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon i Gaerdydd, r’yn  ni ar drothwy creu cyfundrefn addysg gwbl annibynnol i Gymru am y tro cynta’ erioed.” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Er y balchder a’r gorfoledd yn sgil hyn, mae pryder gwirioneddol am lwyth gwaith athrawon sy’n golygu fod nifer fawr o athrawon yn, neu’n bwriadu, gadael y proffesiwn. Mae sefyllfa o argyfwng ar y gorwel.”