Prentis cogydd (Leos Streda CCA4.0)
Cafodd Llywodraeth Cymru eu beirniadu am fethu am fethu â rhoi digon o wybodaeth i fusnesau ynglŷn â lefi newydd.
Yn ôl Ceidwadwyr Cymru, fe allai hynny wanhau bwriad y lefi o geisio hyrwyddo prentisiaethau newydd.
Roedden nhw’n ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad a gafodd ei gyhoeddi ddoe, yn dweud mai “tameidiog” oedd yr wybodaeth a roddodd y Llywodraeth i’r tua 700 o fusnesau sy’n cael eu heffeithio.
“Mae adroddiad heddiw yn tynnu sylw at fethiant sylweddol Llywodraeth Cymru i gysylltu â busnesau dros Gymru ar effaith y lefi,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Mohammad Asghar.
“Mae’r methiant i ymwneud â rhan anhepgor o’n heconomi mewn modd adeiladol yn peryglu bwriad y polisi sef i ail-fuddsoddi mewn hyfforddiant prentisiaethau.”
Cwmnïau ‘ddim yn gwybod’
Mae’r feirniadaeth yng Nghymru yn adleisio cwynion tebyg am y sefyllfa ar draws gwledydd Prydain.
Yn ôl arolwg o 1,000 o gwmnïoedd gan ManpowerGroup dyw’r mwyafrif o gwmnïoedd ddim yn deall neu wedi camddeall goblygiadau’r newidiadau.
O Ebrill 6 ymlaen fe fydd rhaid i bob cyflogwr yn y Deyrnas Unedig sydd yn talu cyflogau o fwy na £3 miliwn dalu lefi er mwyn codi arian i gefnogi prentisiaethau.
Yn ôl yr arolwg, dywedodd bron i ddau draean y cyflogwyr nad oedden nhw’n deall y sustem a bod traean o gwmnïoedd yn ansicr a ydyn nhw i fod i dalu’r lefi.
“Dyw busnesau o hyd ddim wedi paratoi am y newidiadau yma, ddwy flynedd wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Ar sail darganfyddiadau’r ymchwil, bydd llawer o fusnesau yn cael sioc pan fydd y lefi yn dod i rym,” medd cyfarwyddwr Manpower, Chris Gray.