Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Bydd y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn derbyn buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn rhwng 2017 a 2018.

Bydd y cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegu at £35 miliwn sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol a help i ymdopi â phwysau cost y gweithlu.

“Pwysigrwydd”

 

Yn dilyn cyhoeddiad heddiw bydd cyfanswm o £55 miliwn o fuddsoddiad pellach rhwng 2017 a 2018 sydd gyfwerth a’r buddsoddiad pellach mewn gofal cymdeithasol dros yr un cyfnod yn Lloegr.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos y pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi i’n sector gofal cymdeithasol,” meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, yr Athro  Mark Drakeford.

“Er gwaetha’r toriadau rydyn ni wedi rhoi sylw i’n cyllideb, rydyn ni wedi parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ac wedi rhoi mesurau penodol ar waith i gefnogi cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol.”

“Cymru’n arwain y ffordd”

Ychwanegodd y Gweinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans:

“Mae’r sector gofal cymdeithasol o bwysigrwydd strategol cenedlaethol i Lywodraeth Cymru.

“O’i gyfuno, mae’r cyllid hwn o £55m yn dangos unwaith eto bod Cymru’n arwain y ffordd o ran sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael cyllid ac adnoddau priodol.”