S4C - roedd papur gan Glyn Tegai Hughes yn allweddol (llun S4C)
Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yr wythnos nesa’ i ddathlu bywyd dyn oedd yn allweddol yn y broses o sicrhau sianel deledu Gymraeg.
Yn ôl un o aelodau cynta’ Awdurdod S4C, Glyn Tegai Hughes oedd wedi creu’r ddogfen a helpodd argyhoeddi y BBC a Llywodraeth Prydain i gefnogi’r syniad.
“Y fo osododd sylfeini polisi’r BBC tuag at bedwaredd sianel,” meddai Alwyn Roberts. “Sgrifennodd o bapur yn 1973 i’r Llywodraeth yn Llundain, ac o hynny ymlaen roedd y BBC yn cefnogi pedwaredd sianel Gymraeg.”
Yn ôl Alwyn Roberts, a fu’n eistedd ar Gyngor Darlledu’r BBC yng Nghymru o dan gadeiryddiaeth Glyn Tegai Hughes, roedd yn ddyn “amryddawn” ac “egwyddorol” a fydd yn cael ei gofio’n bennaf am ei waith darlledu.
Roedd hynny’n cynnwys bod yn Llywodraethwr Cymru I’r BBC ac yn Gadeirydd Pwyllgor Darlledu Cymru.
Academydd a gwleidydd hefyd
Ond roeddGlyn Tegai Hughes hefyd yn academydd amlwg ac, ar un adeg, wedi bod yn wleidydd addawol, gan ddod o fewn dim i gipio sedd Dinbych i’r Rhyddfrydwyr yn 1950.
Yn fuan wedyn roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad rhyddfrydol Undeb Cymru Fydd a gasglodd ddeiseb fawr o blaid datganoli i Gymru.
Fe fu farw ynghynt y mis yma yn 1994 a bydd y gwasanaeth i’w gofio’n cael ei gynnal yn y Drenewydd ddydd Mercher yn yr ardal ble bu’n warden ar Ganolfan Gregynog ar ran Prifysgol Cymru.
Roedd ei waith academaidd yn cynnwys cyfrolau ar lenyddiaeth ramantaidd yr Almaen a’r beirdd Cymraeg, Islwyn, a William Williams Pantycelyn.
- Fe fydd teyrnged lawn i Glyn Tegai Hughes yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesa’