Rhan o wefan gyhoeddusrwydd y ffair
Mae ffair arfau fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd wythnos nesaf yn “aflan” yn ôl Dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd.
Mae Sue Lent wedi addo y bydd yn ymuno â phrotestiadau y tu allan i’r ffair ddydd Mawrth nesa’ – fe gafodd pobol eu harestio adeg y digwyddiad y llynedd.
“Es i i brotestio flwyddyn ddiwethaf, yn amlwg mae’n aflan bod y fath beth yn dod i Gaerdydd. Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn protestio yna. Dw i ddim yn credu bod pobol yn sylweddoli beth sy’n digwydd y tu mewn, yn y ffair,” meddai’r cynghorydd.
Fe fydd nifer o fudiadau, gan gynnwys Na i Ffair Gaerdydd a Chymdeithas y Cymod, yn protestio yng Nghaerdydd wrth i’r ffair arfau Amddiffyniad, Ymchwil, Technoleg ac Allforio (DPRTE) flynyddol ddychwelyd i’r brifddinas.
Ffair llynedd
Mae trefnwyr y ffair yn dweud mai hon fydd y fwya’ eto, gan ddweud y bydd yn allweddol i’r broses o brynu a gwerthu arfau – marchnad sydd werth tua £19 biliwn ar draws gwledydd Prydain.
Dyma fydd y drydedd ffair o’i fath yng Nghaerdydd ers i brotestwyr yrru’r ffair o’i lleoliad gwreiddiol ym Mryste.
Mae’n cael ei chynnal yn Arena Motorpoint yng nghanol Caerdydd, gyda chefnogaeth adrannau llywodraeth a rhai o’r cwmnïau mwya’ yn y maes.
Protestiadau y llynedd
Y llynedd, cafodd chwech o bobol eu harestio yn sgil protest y tu allan i’r ffair ar gyhuddiadau o droseddau anrhefn a thresbas.
Roedd Sue Lent ymysg nifer o wleidyddion a arwyddodd lythyr o brotest bryd hynny ac mae’n bwriadu protestio eleni eto.
“Roedd yn rhaid i bawb oedd yn mynd i mewn i’r adeilad ymlwybro trwy’r brotest y tu allan,” meddai. “Doedd dim modd sleifio i mewn.”