Yn ôl ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw mae cyfradd diweithdra Cymru – sef y canran o’r boblogaeth sydd yn ddi-waith – yn is na’r cyfartaledd Prydeinig.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau mae 4.4% o Gymry yn ddi-waith tra bod y gyfradd ddiweithdra am y Deyrnas Unedig yn 4.7%.

Mae cyfradd diweithdra’r Deyrnas Unedig ar ei isaf ers haf 1975 tra bod 32 miliwn o bobol ym Mhrydain â swydd o ryw fath.

Yn ystod tair mis olaf flwyddyn ddiwetha’ yr oedd 66,000 yn ddi-waith yng Nghymru sy’n gynnydd o 1,000 o gymharu â’r tair mis olynol.

Cytundebau dim oriau

Bu cynnydd Prydeinig o 101,000 yn y nifer oedd yn gweithio dan gytundebau dim oriau (zero-hours contracts) yn ystod diwedd 2016 o gymharu â’r ffigurau blwyddyn yn ôl.

Mae’n debyg mai pobol ifanc, menywod a phobol sydd yn astudio rhan amser neu lawn amser sydd fwyaf tebygol o fod yn gweithio dan gytundeb o’r fath.