Dr Barry Morgan (llun: Ben Birchall/PA)
Mae cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal heddiw i geisio penodi Esgob newydd i Landaf wedi i’r Coleg Etholiadol fethu â phenodi unrhyw un ddiwedd mis diwethaf.

Wedi tridiau o drafod rhwng Chwefror 21 a 23, ni lwyddodd yr un ymgeisydd i ennill y nifer o bleidleisiau digonol i gael eu hystyried ar gyfer y swydd.

Bellach, mae’r cyfrifoldeb o lenwi’r swydd yn syrthio ar Fainc yr Esgobion – sef yr esgobion sy’n arwain yr esgobaethau eraill yng Nghymru – Bangor; Llanelwy; Abertawe ac Aberhonddu; Tŷ Ddewi; a Mynwy.

Maen nhw hefyd yn ymestyn yr ymgynghoriad at Ddeoniaid yr Ardal ynghyd ag aelodau’r Coleg Etholiadol a Phwyllgor sefydlog yr Esgobaeth.

Bydd yr esgob newydd yn olynu Dr Barry Morgan wnaeth ymddeol ddiwedd mis Ionawr o’i rôl fel Esgob Llandaf, ynghyd â’i swydd fel Archesgob Cymru ar ôl 14 o flynyddoedd.