Syr Bryn Terfel (Llun: Yui Mok/PA Wire)
Mae Bryn Terfel wedi cael ei urddo yn farchog mewn seremoni heddiw ym Mhalas Buckingham am ei gyfraniad i’r byd cerddorol.

Cafodd y cerddor sy’n wreiddiol o Bant Glas yn Nyffryn Nantlle wybod am yr anrhydedd yn yr hydref y llynedd, ac fe gafodd ei gyhoeddi ymhlith rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ddiwedd mis Rhagfyr.

Dywedodd ar y pryd ei fod yn gobeithio y bydd ei anrhydedd yn “ysbrydoli” cerddorion y dyfodol.

“Dw i’n teimlo nawr fod cael eich urddo’n farchog yn rhoi ysgogiad arall i chi weithio’n fwy diflino gyda’r sefydliad wnes i gychwyn, mae angen i mi weithio mwy efo hwnnw,” meddai adeg y cyhoeddiad.

Gwobrau

Daeth Bryn Terfel i amlygrwydd fel canwr ar lwyfan yr Eisteddfod cyn mynd ymlaen i fod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y byd canu opera.

Ymhlith y gwobrau mae e wedi’u hennill ar hyd y blynyddoedd mae Grammy a Brit clasurol.

Derbyniodd CBE yn 2003 am ei gyfraniad i fyd yr opera, cyn derbyn Medal Gerddoriaeth y Frenhines dair blynedd yn ddiweddarach.

Mae wedi dyweddïo â’r delynores Hannah Stone ac maen nhw’n disgwyl eu plentyn cyntaf yn y gwanwyn.