Llys y Goron Abertawe
Mae dyn wnaeth hollti’i wddf â chyllell mewn llys yn Hwlffordd wedi cael gorchymyn cymunedol am dair blynedd a’i enw ar gofrestr rhyw am bum mlynedd.

Roedd Lukasz Robert Pawlowski, 33 oed, wedi mynd â chyllell cegin i Lys yr Ynadon Hwlffordd ar Ionawr 11 pan oedd yn wynebu gwrandawiad am drosedd rhyw yn erbyn dynes a weithiai mewn siop ym mis Hydref 2016.

Clywodd y llys ei fod wedi gofyn i’r ddynes am gusan, cyn cydio ynddi a’i chusanu ei hun.

Yn Llys yr Ynadon Hwlffordd ym mis Ionawr, fe ddechreuodd hollti’i wddf ar ôl dod yn ôl o’r tai bach, ac fe gafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i’r ysbyty a’i gadw yn y ddalfa wedi hynny.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas wrth ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Abertawe ei fod wedi cyflawni dwy drosedd “ddifrifol”.

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i sut yr aeth â’r arf i’r llys.

Bydd Lukasz Pawlowski yn aros ar y gofrestr troseddwyr rhyw am bum mlynedd, yn gorfod cymryd rhan mewn rhaglen troseddwyr rhyw, ac mae gorchymyn yn ei erbyn i beidio â mynd yn agos at y ddynes.