Ffatri Vauxhall yn Ellesmere Port Llun: PA
Mae cwmni ceir PSA o Ffrainc wedi cyhoeddi y bydd yn prynu safleoedd General Motors yn Ewrop, sy’n cynnwys Vauxhall yn y Deyrnas Unedig, mewn cytundeb gwerth £1.9 biliwn.

Mae’r cyhoeddiad yn dod ag wythnosau o ddyfalu i ben ynglŷn â’r cytundeb a’r effaith posib ar filoedd o swyddi yn safleoedd Vauxhall yn Ellesmere Port a Luton.

Mae nifer o weithwyr o Gymru yn gweithio yn y safle yn Ellesmere Port ac mae undeb Unite wedi galw am sicrwydd ynglŷn â dyfodol hirdymor y ffatrïoedd yn y DU.

PSA fydd yr ail gwmni cynhyrchu ceir fwyaf yn Ewrop o ganlyniad i’r cytundeb, gyda chyfran o 17% yn y farchnad. Mae’n cynhyrchu ceir Peugeot a Citroen.

Dywedodd Carlos Tavares, cadeirydd bwrdd rheoli PSA, eu bod yn “falch iawn i ymuno a Opel-Vauxhall ac wedi ein hymrwymo i barhau i ddatblygu’r cwmni.”

‘Dim angen cau ffatrïoedd’

Mae PSA wedi ceisio lleddfu pryderon ynglŷn â swyddi. Dywedodd Carlos Tavares: “Does dim angen i ni gau ffatrïoedd. Ry’n ni’n credu bod angen i ni ymddiried yn nhalentau pobl.”

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cael ei hannog i chwarae ei rhan i ddiogelu’r gweithlu.

Dywedodd yr AS Llafur Gavin Shuker, sy’n cynrychioli etholaeth Luton: “Mae angen i’r Llywodraeth chwarae ei rhan drwy gael cytundeb Brexit sy’n cadw ffatrïoedd Vauxhall yn y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark: “Mae gan Vauxhall hanes hir o lwyddiant yn y wlad hon ac rydym yn benderfynol o weld hynny’n parhau.

“Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r sicrwydd gan PSA y bydd yn parchu’r ymrwymiadau a wnaed gan GM i weithwyr a phensiynwyr Vauxhall.

“Fe fyddwn yn parhau i drafod a gweithio gyda PSA yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod yr ymrwymiadau yma yn cael eu cadw ac yn adeiladu ar lwyddiant y ddau safle yn y tymor hir.”