Adam Price AC
Mae Aelod y Cabinet Cysgodol dros yr Economi, Adam Price, yn defnyddio’i araith yng nghynhadledd Plaid Cymru i gyhoeddi bod Plaid Cymru am archwilio’r posibiliad o dreth iechyd a gofal cymdeithasol pwrpasol – cynnydd o un geiniog yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm.

Mi fydd hwn yn rhan o ymgynghoriad eang ar y defnydd o bwerau trethi newydd a bydd yn cynnwys archwilio cynigion tebyg i ysgolion a sgiliau, gwneud y ddau, neu argymell bod yna ddim newid.

Dywedodd Mr Price y byddai datganoli pwerau trethi yn cynyddu atebolrwydd ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian cyhoeddus, hyd yn oed heb newid cyfraddau trethi.

“O ystyried y raddfa o danfuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus craidd, rydym yn gynyddol rhagweld y bydd gwella iechyd ac addysg yng Nghymru yn gofyn am fuddsoddiad cyson a chynyddol,” meddai Adam Price.

“Rydym am ofyn i bobol Cymru os y dylen ni wneud penderfyniad ar y cyd i fuddsoddi mwy heddiw er mwyn creu’r yfory rydym i gyd am weld.

“Plaid Cymru bydd y blaid wleidyddol gyntaf yng Nghymru i ystyried cynyddu trethi incwm i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni am danio’r drafodaeth heddiw.”