Mae dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn bwysig i Dewi Meirion, sy’n ymchwilydd gyda chwmni teledu Avanti ac yn byw yng Nghaerdydd.

Dywed ei bod yn gyfle “i ddathlu ein Cymreictod ac ein gwlad.”

O ran ei atgofion am Fawrth y cyntaf, mae’n cofio gwisgo cennin pedr pren, tynnu blodau o ardd yr ysgol… a bellach, mae’n gwneud ei orau i gael peint am ddim gan ei ffrindiau – “ond anaml iawn y mae hynny’n gweithio”, meddai.

Gwyliwch Dewi Meirion yn ateb rhai o gwestiynau golwg360 ar y fideo hwn: