Llun: S4C
M
ae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu cynnal ymchwiliad eu hunain i ddyfodol S4C.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am glywed barn pobol Cymru am wasanaeth y sianel, sut i wella’r arlwy, denu cynulleidfaoedd newydd ac ansawdd y ddarpariaeth sydd ar gael ar-lein.

Maen nhw wedi rhyddhau arolwg i’r cyhoedd sydd ar gael yma tan Fawrth 20.

Ymchwiliad Llywodraeth Prydain

Daw penderfyniad y pwyllgor i gynnal ymchwiliad eu hunain yn sgil bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad o S4C rywbryd yn ystod 2017.

Maen nhw’n gobeithio datblygu ar eu hadroddiad, ‘Y Darlun Mawr – Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’ lle wnaeth y pwyllgor glywed tystiolaeth gan BBC Cymru, ITV Cymru, S4C, Cyfarwyddwyr Cyffredinol y BBC ac Ofcom.