Tyrfe Tawe
Mae’r canwr o bentref Godre’rgraig yng Nghwm Tawe, Huw Chiswell wedi dweud bod Seisnigrwydd ei fro enedigol yn “dristwch” iddo.
Fe ddychwelodd i ddinas Abertawe dros y penwythnos, ar gyfer gig misol Tyrfe Tawe yng nghanolfan Tŷ Tawe.
Ymhlith ei ganeuon ar y noson roedd Rhywbeth o’i Le, Gadael Abertawe a’i fersiwn ei hun o Aderyn Llwyd, clasur gan un arall o frodorion yr ardal, Mary Hopkin – a phob un â chysylltiad â bro ei febyd.
Y Cwm
Ond y clasur mwyaf ohonyn nhw i gyd, Y Cwm sy’n rhoi’r eglurhad gorau i ni o’r newidiadau a fu yn y fro ers i’r canwr “hel ei bac” a symud i Gaerdydd rai blynyddoedd yn ôl.
Dywedodd wrth Golwg360: “Wrth gwrs, arsylwi ydw i wrth ddod nôl. Falle bod ’da fi fantais o allu cymryd golwg wrthrychol o bethe, o bosib, ond alla’i ddim honni arbenigedd. Alla’i ddim deall sut mae yn union i fyw ’ma bellach.
“O ran y tirlun, os gallwn ni ddechre fynna, mae’n wyrddach o lawer na phan o’n i’n tyfu lan.
“Ges i’r profiad yn ddiweddar o ffilmio yma gyda Rhys Meirion. O’dd e’n neud cyfres deledu. Gofynnwyd i mi awgrymu lleoliade lle gellid cael rhyw olygfa eiconig o’r cwm. A dyma fi’n enwi rhyw dri neu bedwar lle.
“Aethon ni i bob un a doedd dim modd gweld unrhyw beth oherwydd o’dd cymaint o dyfiant coed wedi bod dros yr ugain mlynedd diwetha’. O’dd e’n golygu nad oedd yr olygfa’n bodoli fel o’n i’n gyfarwydd â gweld y cwm yn ei holl ysblander.”
Rhywbeth o’i Le
Ein gelyn ni ein hunain ydyn ni’r Cymry yw neges Huw Chiswell wrth drafod Rhywbeth o’i Le, sy’n ein hatgoffa o ddirywiad eglwys fach Holy Trinity yng Ngodre’rgraig.
Cloch yr eglwys honno, a gafodd ei dymchwel yn 1986, sy’n ymddangos ar ddechrau’r gân ar y recordiad gwreiddiol ohoni.
“A dyna le mae llawer o’r teulu’n gorwedd, ’y nhad-cu a ’nhad bellach a’r tylwyth. Mae hynny’n dristwch mawr.
“Ni’n dda iawn am ddistrywio golwg ein bröydd rywsut. Does ’da ni ddim llawer i’w ddweud wrth bensaernïaeth ac wrth gadw adeiladau sydd o werth ac sy’n rhoi ysbryd a golwg i bentre’.
“Ni’n hoff iawn o’r pebbledash yn anffodus. Wedyn doedd dim llawer o barch i’r eglwys ’ma yn y diwedd. Gweinyddiaeth yr eglwys ei hun o’dd yn gyfrifol yn y diwedd, nid pobol o’r tu allan. Pobol yr eglwys oedden nhw, dyna’r gwarth.”
Y Gymraeg
30.1% o frodorion Cwm Tawe sy’n Gymry Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2011, sy’n cyfateb i ostyngiad o 11.4% dros y degawd diwethaf.
Ac mae’r newid hwnnw’n amlwg iawn i’w glywed yng nghymunedau Cwm Tawe erbyn hyn, meddai Huw Chiswell.
“Y tristwch yw na glywn ni’r iaith fel y’n ni’n gyfarwydd â’i chlywed hi.
“Fi’n cofio’r Suliau ’na, yn deffro’n hwyr yn arddegyn, ac yn clywed iaith y stryd tu allan. Cymraeg dw i’n cofio ei chlywed bob tro. Dw i ddim yn meddwl bod hynny’n wir bellach, yn anffodus.”
Gigs misol Tyrfe Tawe
Mae dirywiad y Gymraeg yn ardal Abertawe hefyd yn digwydd yn gynt nag y mae mewn sawl ardal arall yng Nghymru. Ymgais i normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol, felly, yw gigs misol Tyrfe Tawe.
Ychwanegodd: “Mae bob amser yn bleser dod i Dŷ Tawe. Fi’n gwybod fod e’n rhywbeth sy’n cael ei weud am unrhyw venue gan artistiaid ar y cyfan ond, wrth gwrs, mae Abertawe a Chwm Tawe’n agos iawn at ’y nghalon i.
“Mae’n bleser bod ’ma i ganu bob tro. Mae bob amser pobol gynnes, awyrgylch groesawgar ’ma. Mae’n bro enedigol ni’n ein ffurfio ni. Beth bynnag a ddaw ohonon ni, o hynny allan, y fro honno sy’n gyfrifol am y dylanwadau cynnar iawn bore oes.
“Mae’r gynulleidfa sy’n dod i’r lleoliade lleol ’ma yn rhai sy’n gwbod yn union beth sydd ar waith yn y caneuon. Mae hynny bob amser yn rhoi gwefr, i’w canu nhw.”
Cyfweliad: Alun Rhys Chivers