Yr olion traed ym Mhorth Einion (Llun: Prifysgol Caerdydd)
Mae olion traed dynol a gafodd eu darganfod ym Mhorth Einion, ym Mhenrhyn Gŵyr yn 2014 yn 7,000 mlwydd oed.
Yn wreiddiol roedd ymchwilwyr yn credu bod yr olion traed o blant ac oedolion yn dyddio o’r Oes Efydd, neu tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ond mae dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu eu bod 3,000 o flynyddoedd yn hŷn na hynny.
Gwnaethpwyd profion dyddio radiocarbon ar yr olion traed gan Rhiannon Philp, myfyrwraig PhD mewn Archaeoleg. Dangosodd y profion hyn fod yr olion traed yn dyddio o’r Oes Fesolithig, cyfnod pan oedd dynoliaeth yn bennaf yn hela ac yn casglu bwyd.
Yn ôl Rhiannon Philp, mae’r olion traed yn awgrymu bod grŵp o helwyr yn dilyn trywydd ceirw a baedd gwyllt; mae olion yr anifeiliaid yno hefyd, yn symud i’r un cyfeiriad.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod olion traed o’r cyfnod wedi Oes yr Iâ yn brin iawn yn y DU, gyda dim ond naw safle hysbys ar lan y môr, y rhan fwyaf ohonyn nhw yng Nghymru.
Ychwanegodd fod ymchwil Rhiannon Philp yn helpu i greu darlun o dirwedd sydd wedi ei golli i’r môr, ac yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r bobl oedd yn byw yno.