Ann Coles (llun gan yr heddlu)
Mae’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am ddynes 74 oed o’r dref sydd ar goll.

Cafodd Ann Coles ei gweld ddiwethaf yn ardal Porthcawl ddoe, ac mae’r heddlu’n pryderu am ei diogelwch.

Caiff ei disgrifio fel dynes fain pum troedfedd pedair modfedd o daldra, gyda gwyllt llwyd byr. Pan gafodd ei gweld ddiwethaf roedd mewn dillad du a chôt liwgar â phatrwm blodeuog.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu ar 0800 555111 a nodi cyfeirnod 1700071791.