Robert Peston (Llun: ITV)
Mae un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlyca’ gwledydd Prydain wedi amddiffyn y Cymry, drwy lambastio’r sawl sy’n gwneud “sylwadau gwrth-Gymreig”.
Fe aeth Robert Petson ar wefan gymdeithadol Twitter i ddweud ei fod wedi cael digon ar bobol “a fyddai’n casáu cael eu galw’n hiliol”, sy’n “meddwl ei fod yn iawn gwneud sylwadau gwrth-Gymreig didaro.”
Roedd Robert Peston, a ddaw o Lundain ond a aeth i Brifysgol Aberystwyth, yn ohebydd busnes y BBC, cyn gadael yn 2016 am ITV.
Huw Edwards yn diolch
Mae’r newyddiadurwr Huw Edwards o Lanelli, un o wynebau amlycaf y BBC sy’n cyflwyno BBC News at Ten, wedi trydar ato yn dweud diolch.
Hyd yn hyn, mae neges Robert Peston ar Twitter wedi ennyn 368 o ail-drydariadau ac mae 841 o bobol wedi hoffi’r sylw a 145 wedi ymateb.
“Pam bod cymaint o bobol a fyddai fel arfer yn casáu cael eu galw’n hiliol yn meddwl ei fod yn iawn gwneud sylwadau gwrth-Gymreig didaro? Mae’n digwydd o hyd. Dw i’n ei gasáu,” meddai ei neges.
Wrth ateb iddo, dywedodd Huw Edwards, “Diolch Robert. Mae rhai o’r gwaethaf yn bobol sy’n ymfalchïo yn eu hunain ar agwedd ‘ryddfrydig’. Rhyfeddol”
Dyma neges Robert Peston
Why do many who would hate to be called racist think it’s OK to make casually nasty anti-Welsh remarks? Happens all the time. I hate it
— Robert Peston (@Peston) February 23, 2017