Profiad Doctor Who yng Nghaerdydd
Mae mwy na 10,000 wedi arwyddo deiseb ar-lein yn erbyn y penderfyniad i gau profiad rhyngweithiol y gyfres Doctor Who yng Nghaerdydd.
Symudodd y Doctor Who Experience (DWE) o Lundain i Gaerdydd yn 2012 a’r bwriad oedd ei gadw ar agor am bum mlynedd yn unig.
Ond mae cefnogwyr y gyfres boblogaidd wedi galw am gadw’r profiad rhyngweithiol sydd wedi’i leoli yn stiwdios Porth Teigr ar agor.
5 mlynedd
Mae’r ddeiseb wedi’i sefydlu gan Bex Ferriday, 46 oed, o ardal Sblot ac mae’n dweud fod y DWE yn dod ag ymwelwyr ac incwm i’r brifddinas o gofio fod y gyfres yn cael ei ffilmio yno.
Er hyn, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd fod safle’r DWE yn eiddo i Lywodraeth Cymru a’r partner datblygu Igloo Regeneration.
“Cafodd ei roi ar les i gyngor y ddinas am bum mlynedd i sicrhau adleoli’r Doctor Who Experience o Olympia i Gaerdydd dros dro.
“Mae wastad wedi bod yn fwriad i’r safle gael ei ddatblygu fel rhan o brosiect adnewyddu parhaus Porth Teigr,” ychwanegodd y llefarydd.
“Mae’r penderfyniad i’w gau ar ddiwedd y les yr haf nesaf wedi’i gytuno gan y rhai sy’n rhan ohono, gan gynnwys gweithredwyr BBC Worldwide,” meddai wedyn.