Bedd Hedd Wyn
Mi fydd hanes y bardd Hedd Wyn a Chymry eraill fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu cofio ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn eleni.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn agor gyda pherfformiad o dan yr enw ‘A Oes Heddwch?’ a fydd yn coffau’r Cymry fu farw ym Mrwydr Passchendaele.
Bu farw Hedd Wyn ar ddiwrnod cyntaf y frwydr lle bu farw tua 325,000 o ddynion o wleydd Prydain.
Mae’r cyfansoddwr sydd â chysylltiadau â Môn, Paul Mealor a’r bardd Grahame Davies wedi cydweithio ar gân ar gyfer y perfformiad ym mhafiliwn yr Eisteddfod.
Bydd y darn yn cael ei pherfformio gan Gôr yr Eisteddfod Genedlaethol a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae disgwyl bydd enwau unawdwyr fydd hefyd yn perfformio ar y noson yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
‘Braint fawr’
“Mae hanes Hedd Wyn yn rhan annatod o’n profiad fel Cymry, yn un o storïau mwyaf dirdynnol y Rhyfel Byd Cyntaf fel y cyfryw, ac yn symbol o golli cenhedlaeth o fechgyn ifanc,” meddai Grahame Davies.
“Braint fawr oedd ceisio canfod geiriau newydd i adlewyrchu’r profiad o golled ac i gydweithio eto gyda chyfansoddwr mor hynod dalentog â Paul Mealor.”
Coffau’r bardd
“Mae hanes Hedd Wyn yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi’i fagu yng Nghymru, ac mae’n anrhydedd mawr i gael bod yn rhan o’r gwaith hwn sy’n ei goffau drwy gerddoriaeth,” meddai Paul Mealor.
“Bwriad y gwaith hwn, gyda geiriau gwreiddiol a dirdynnol Grahame Davies, yw cynnig ambell funud o heddwch a myfyrdod ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, i goffau’r dyn, ei hanes a’i farddoniaeth.”
Mae Aled Hughes a Dafydd Hughes o’r band Cowbois Rhos Botwnnog ar y cyd â Guto Dafydd hefyd wedi cyfrannu deunydd fydd yn rhan o’r perfformiad.