Mae dyn 58 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Abercannaid ger Merthyr Tudful y bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad toc cyn 4am, ac fe gafodd y dyn ei arestio a’i gludo i’r ysbyty lle mae ei fywyd mewn perygl.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.