Ysbyty Singletonj - Llywodraeth Cymru'n gwadu bod adroddiad yn berthnasol i Gymru (Llun yr Ysbyty)
Mae “posibilrwydd” y gallai toriadau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gysylltiedig â marwolaethau degau ar filoedd o bobol, yn ôl papur ymchwil newydd.
Yn 2015, bu cynnydd “heb ei debyg” mewn marwolaethau yng Nghymru a Lloegr, a gallai fod y toriadau diweddar mewn cyllidebau fod wrth wraidd hynny, meddai dwy erthygl yn y Journal of the Royal Society of Medicine.
Yn ôl yr ymchwilwyr o Ysgol Hylendid a Meddyginiaethau Tramor Llundain, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Blackburn, mae angen “ymyrryd ar frys” i atal y cynnydd mewn marwolaethau.
‘Ddim ynberthnasol’ meddai Llywodraeth Cymru
Ond mae Llywodraeth Cymru’n dadlau nad yw’r adroddiad yn berthnasol yma.
Fe ddywedodd llefarydd nad yw hi “ddim yn helpu” cymharu Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, “gan nad oes toriadau wedi bod yn y gyllideb iechyd a gofal yng Nghymru”.
Roedd hefyd yn dadlau bod lefel gwario y pen ar iechyd yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.
Cyfraddau marwolaeth ‘yn amrywio’
“Byddwn wedi buddsoddi gwerth dros hanner biliwn o bunnoedd o arian ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ystod dwy flynedd gyntaf y Llywodraeth newydd hon; £169 yn ychwanegol i bob person yng Nghymru,” meddai’r llefarydd.
“Mae gwariant ar wasanaethau iechyd a gofal fesul y pen yng Nghymru yn 6% yn uwch nag yn Lloegr.
“Mae cyfraddau marwolaeth yn dueddol o amrywio ac yn cael eu hachosi gan wahanol ffactorau mewn cymdeithas, nid iechyd na gofal cymdeithasol yn unig, felly dylai unrhyw olwg ar achos unigol gael ei drin â gofal.”
Dadl yr arbenigwyr
Mae’r arbenigwyr yn dweud bod 2015 wedi gweld y cynnydd mwya’ mewn marwolaethau yng Nghymru a Lloegr ers 50 mlynedd, gyda llawer ohonyn nhw yn ystod mis Ionawr.
“Mae’r gostyngiad hir dymor mewn marwolaethau yng Nghymru a Lloegr wedi mynd o chwith, gyda thua 30,000 o farwolaethau ychwanegol o gymharu â’r hyn fyddai i’w ddisgwyl o’r cyfraddau marwolaethau cyffredinol rhwng 2006 a 2014,” meddai’r academyddion.
Mewn papur arall, fe wnaethon nhw osod pedair damcaniaeth oedd yn cynnwys, problemau posib â’r data, “sioc amgylcheddol” fel rhyfel neu drychineb naturiol, epidemig mawr neu “fethiant yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.”
Tywydd oer a’r ffliw oedd y prif achosion dros y cynnydd a chasgliad yr ymchwilwyr oedd bod “y dystiolaeth yn dangos methiant mawr y system iechyd, sydd wedi’i ddwysáu o bosib gan fethiannau gofal cymdeithasol”.
Methiannau
Roedd y methiannau hyn ym mis Ionawr 2015 yn cynnwys:
- Methu cyrraedd targedau galw ambiwlans
- Dim cynnydd mewn adrannau brys ond amseroedd aros yn cynyddu
- Cynnydd mewn canslo llawdriniaethau am resymau oedd ddim yn glinigol
- Oedi wrth drosglwyddo cleifion i ofal cymdeithasol, gan arwain at brinder gwelyau
- Cynnydd mewn absenoldeb staff a swyddi’n cael eu gadael yn wag
“Dylai ein canfyddiadau gael eu gweld yng nghyd-destun gwaethygu sefyllfa ariannol y Gwasanaeth Iechyd,” meddai’r papur.
“Ers yr etholiad yn 2010, mae effaith y toriadau o lymder ar y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn ddifrifol.”