Ysbyty Singleton - un o'r rhai a allai gael ei heffeithio (Llun y Bwrdd Iechyd)
Fe allai streic ddeuddydd gan rai o staff bwrdd iechyd gael effaith ddifrifol ar lawdriniaethau yn ysbytai Abertawe a Bro Morgannwg.
Fe gyhoeddodd undeb Unioson y bydd streic yn cael ei chynnal yr wythnos nesa’ yn dilyn anghydfod hir dros lefelau cyflog.
Fe fydd streic gweithwyr unedau sterileiddio a diheintio yn digwydd rhwng Chwefror 22 a Chwefror 23 ac mae’r undeb wedi rhybuddio y gallai gael effaith “ddifrifol” ar lawdriniaethau sydd heb fod yn rhai brys.
Galwad y gweithwyr
Mae’r gweithwyr yn galw am gael eu talu’r un faint â gweithwyr tebyg mewn byrddau eraill yng Nghymru gan honni bod y gwahaniaeth mewn rhai achosion yn gallu bod bron cymaint â £1 yr awr.
Roedd streic wedi’i threfnu ar gyfer dechrau’r mis ond fe gafodd ei gohirio er mwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gael cyfle i ystyried cynnig y gweithwyr.
“Mae’r ‘fargen resymol’ a gafodd ei chynnig gan y Bwrdd Iechyd yn parhau £1,900 yn llai nag y mae gweithwyr â’r un swydd a chyfrifoldebau yn ennill mewn byrddau iechyd eraill,” meddai trefnydd rhanbarthol UNISON, Mark Turner.
“Mae gweithwyr unedau sterileiddio yn teimlo fel bod y Bwrdd wedi eu twyllo a’r cyfan y maen nhw eisiau yw derbyn y tâl y maen nhw yn ei haeddu.”
- Fe allai’r streic effeithio ar lawdriniaethau yn ysbytai Abertawe, Castell Nedd Port Talboit a Phen-y-bont ar Ogwr.
- Mae Golwg360 yn ceisio cael ymateb gan y Bwrdd.