Vidar y ci (Llun: Angharad Sinclair)
Bydd ci synhwyro wnaeth achub cannoedd o filwyr wrth wasanaethu yn Afghanistan yn cael ei anrhydeddu yn y Senedd heddiw.
Bydd Vidar, wnaeth ddod o hyd i fomiau cudd gan achub cannoedd o filwyr o’r Deyrnas Unedig, yn mynychu lansiad ei lyfr fel gwestai anrhydeddus yn adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Yn dilyn dwy flynedd o wasanaeth bu’n rhaid i Vidar ymddeol pan ddechreuodd sŵn ffrwydradau godi braw arno a bellach mae’r ci yn byw â’i berchennog Angie McDonnell ym Mro Morgannwg.
Stori Sydyn
Mae Gun Shy, llyfr sydd yn adrodd ei stori ynghyd â chyfres o lyfrau eraill yn cael ei lansio heddiw fel rhan o ymgyrch Stori Sydyn, Cyngor Llyfrau Cymru.
Nod ymgyrch Stori Sydyn, sydd wedi ei eu lansio’n swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yw cael pobl Cymru i fwynhau darllen trwy gynhyrchu llyfrau byr.
Mae pedwar teitl newydd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r cynllun – dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg.
Ynghyd â Gun Shy gan Angie McDonnell ac Alison Stokes bydd Rhwng y Pyst gan Owain Fôn Williams a Lynn Davies, Y Stelciwr gan Manon Steffan Ros a Stargazers gan Phil Carradice, yn cael eu cyhoeddi heddiw.