Mae’r cyn bêl-droediwr a’r sylwebydd Iwan Roberts wedi galw am wahardd plant dan 10 oed rhag penio’r bêl yn ystod gemau.

Daw ei sylwadau yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Stirling yn yr Alban, sy’n dangos bod penio’r bêl yn gallu achosi newidiadau cyflym a thymor byr i’r ymennydd.

Dywedodd Iwan Roberts wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru: “Yn y wlad yma, dan ni’n meddwl mwy am weithio’n galed a rhoi peli yn yr awyr, i ddefnyddio cryfder chwaraewyr, a galla’i ddallt hynna.

“Ond dw i yn meddwl bod hi’n bwysig datblygu plant ifanc o 10 oed i lawr fel pêl-droedwyr i ddechrau.”

‘Penderfyniad cywir’

Galwodd ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i wneud y “penderfyniad cywir”.

Dywedodd wrth raglen Good Morning Wales Radio Wales: “Byddai’n gam dewr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru tasen nhw’n cymryd y cam hwn.

“Dw i’n credu mai dyna fyddai’r penderfyniad cywir a phe baen nhw’n mynd ati i wneud y penderfyniad hwn, gobeithio y byddai cymdeithasau pêl-droed eraill yn ddigon dewr a dilyn yn ôl troed Cymdeithas Bêl-droed Cymru.”