Mae Abertawe’n bymthegfed yn yr Uwch Gynghrair erbyn hyn yn dilyn buddugoliaeth o 2-0 dros Gaerlŷr yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma.

Mae’r canlyniad – eu pedwaredd buddugoliaeth mewn chwe gêm – yn golygu eu bod nhw bedwar pwynt uwchben y tri isaf.

Fe allai’r Elyrch fod wedi mynd ar y blaen yn gynnar iawn yn y gêm wrth i’r bêl daro llaw’r capten Wes Morgan oddi ar ergyd Gylfi Sigurdsson, ond doedd yr apêl ddim at ddant y dyfarnwr Jon Moss.

Dau amddiffynnwr sgoriodd goliau Abertawe, wrth i Alfie Mawson daro foli i roi ei dîm ar y blaen, gan sgorio ei drydedd gôl mewn chwe gêm.

Ac fe rwydodd y cefnwr chwith Martin Olsson i ymestyn mantais yr Elyrch yn yr hanner cyntaf, a hynny ar ôl pasio celfydd rhwng Fernando Llorente a Gylfi Sigurdsson.

Fe fydd y canlyniad yn rhoi rhagor o bwysau ar reolwr Caerlŷr, Claudio Ranieri, gyda rhai adroddiadau’n awgrymu ei fod e eisoes wedi colli cefnogaeth ei chwaraewyr.

Caerlŷr yw’r pencampwyr cyntaf yn yr adran uchaf i golli pum gêm o’r bron ers i Chelsea ddiodde’r un anffawd yn 1956, a dydyn nhw ddim eto wedi sgorio gôl yn 2017.

Fe fu’n rhaid i’r Elyrch wrthsefyll sawl ymosodiad hwyr gan yr ymwelwyr, ond fe lwyddon nhw i ddal eu gafael ar y gêm er gwaethaf ergyd beryglus hwyr gan Jamie Vardy.

Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll, Dyer (Routledge, Narsingh), Llorente (Ayew), Sigurdsson

Goliau: Mawson (36), Olsson (45+2)

Cerdiau Melyn: Cork, Fer

Caerlŷr: Schmeichel, Simpson (Amartey), Morgan, Huth, Fuchs (Chilwell), Mahrez, Drinkwater, Ndidi, Albrighton (Slimani), Gray, Vardy

Cerdiau Melyn: Huth, Chilwell

Dyfarnwr: Jon Moss

Torf: 20,391