Paul Clement (Llun: Golwg360)
Mae’r gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chaerlŷr yn Stadiwm Liberty yn yr Uwch Gynghrair y prynhawn yma’n “gêm chwe phwynt”, yn ôl prif hyfforddwr yr Elyrch, Paul Clement.
Mae ganddyn nhw 21 pwynt yr un, ond fe fyddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn golygu y bydden nhw’n symud i fyny i’r pymthegfed safle.
Ar drothwy’r gêm, dywedodd Paul Clement: “Gall pethau newid yn gyflym. Mae’n gêm chwe phwynt yn sicr.
“Fyddwn ni ddim yn herio’n gilydd eto’r tymor hwn ac mae hynny’n ei gwneud yn bwysicach fyth.
“Os ydych chi’n dîm sydd heb fawr o hyder a’ch bod chi’n ildio, gall fod yn anodd yn feddyliol ac fe welson ni hynny pan herion nhw Manchester United [gan golli o 3-0].”
Anafiadau – ond Jordan Ayew ar gael
Mae Ki Sung-yueng a Jefferson Montero wedi anafu o hyd, ac mae amheuon hefyd am ffitrwydd capten y clwb, Leon Britton.
Ond fe allai Jordan Ayew ymddangos yng nghrys Abertawe am y tro cyntaf heddiw ar ôl symud o Aston Villa ar ddiwedd y ffenest drosglwyddo.
Mae’n bosib y bydd yr ymwelwyr heb eu hymosodwr Islam Slimani, ac mae Leonardo Ulloa wedi anafu ei goes.
Ystadegau
Mae’r ystadegau’n ffafrio’r ymwelwyr, sydd wedi curo’r Elyrch yn eu pedair gêm diwethaf yn yr Uwch Gynghrair, gyda’r Elyrch yn llwyddo i sgorio un gôl yn unig, gan ildio 11.
Ond fe ddaeth tro ar fyd ar dymor Abertawe gyda phenodiad Paul Clement, sydd wedi arwain ei dîm i dair buddugoliaeth yn ei bum gêm wrth y llyw hyd yn hyn.
Mae’r ymwelwyr wedi colli pedair gêm yn olynol yn y gynghrair, sef eu perfformiad gwaethaf ers diwedd 2014. Dydy pencampwyr y gynghrair uchaf ddim wedi colli pum gêm yn olynol ers i Chelsea gyflawni’r gamp anffodus honno yn 1956.
Nhw hefyd yw’r unig dîm yn y gynghrair bêl-droed sydd heb sgorio’r un gôl yn 2017.
‘Dechrau’n gyflym, dechrau’n dda’
Ychwanegodd Paul Clement: “Ry’n ni’n disgwyl i dîm da iawn ddod i lawr aton ni. Ry’n ni wedi gorfod mynd i lefydd anodd iawn yn ddiweddar. Yn Anfield a Manchester City, ry’ch chi’n gwybod fod rhaid i chi ganolbwyntio.
“Bydd yr holl sôn am Gaerlŷr yn ein hysgogi ni.
“Ond ry’n ni am ddechrau’n gyflym, dechrau’n dda, cael y dorf yn ein cefnogi ni, cael dwyster yn ein gêm a chael yr hyder yn iawn o’r chwiban cyntaf.”