Ann Clwyd yw Aelod Seneddol Cwm Cynon
Yn ôl un o Aelodau Seneddol amlycaf Llafur mae amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn “annerbyniol”, ac mae hi’n pwyso ar y Prif Weinidog Carwyn Jones am atebion.
Mae Ann Clwyd wedi codi pryderon dros y “cynnydd dramatig” dros y misoedd diwethaf yn y nifer o bobol sy’n aros i gael eu trin am brofion diagnostig mewn ysbytai yng Nghymru.
Yn ôl yr ystadegau mae’r gwahaniaeth rhwng amseroedd aros yng Nghymru a Lloegr yn ehangu eto, gyda mwy o gleifion yng Nghymru yn aros chwe wythnos neu fwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 bod “camau gweithredu ar y gweill yn barod i wella amseroedd aros”.
Angen ateb “ar frys”
Mae Ann Clwyd yn dweud y bydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i ofyn am gael datrys y broblem ar frys.
“Mae’r rhain yn ffigurau siomedig iawn, ac er bod y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn wynebu argyfwng, mae’n glir bod yn rhaid i fwy o gleifion yng Nghymru aros eto i ganfod beth sy’n bod arnyn nhw a dechrau ar driniaethau a allai achub eu bywydau,” meddai.
“Rydw i wedi codi pryderon â’r Gweinidog am yr amseroedd aros hyn ar gyfer profion hanfodol ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf yn dilyn y safle gwarthus ym mis Awst 2015, a rhybuddiais dros broblemau’n codi dros y gaeaf.
“Cefais sicrhad gan y Gweinidog bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o ffocws ar wella amseroedd aros mewn gwasanaethau diagnostig, a bod Byrddau Iechyd yn mynd i’r afael â’r broblem.
“Fodd bynnag, rydym ni’n edrych ar hen dueddiadau yn dod yn ôl ac amseroedd aros hir yn dod yn norm mewn llawer o achosion eto.
“Mae’n annerbyniol bod gan gleifion yng Nghymru wasanaeth sydd mor israddol o gymharu â’u cyfatebwyr yn Lloegr.
“Mae gan yr effeithiau hirdymor yn yr oedi mewn rhoi diagnosis, sy’n ganlyniad o’r sefyllfa hon, oblygiadau i iechyd y claf, ac i iechyd y genedl.”
Y ffigurau…
O gymharu â mis Tachwedd 2016, bu cynnydd o 1,208 yn nifer y bobol yn aros dros chwe wythnos yng Nghymru am sgan MRI ym mis Rhagfyr, sef bron i 25% ar y rhestr aros.
O gymharu â’r niferoedd yn Lloegr, dim ond 1.4% o’r boblogaeth sy’n aros mor hir.
Bu bylchau hefyd yn yr amseroedd aros ar gyfer profion colonosgopi a gastrosgopi, sy’n gallu darganfod canser a chyflyrau iechyd difrifol eraill.
Yn ôl y ffigurau, roedd dros hanner [56.7%] o’r rhai ar y rhestr aros yng Nghymru wedi aros dros chwe wythnos am gastrosgopi ym mis Rhagfyr, sy’n gynnydd o bron i 500 o gleifion ers mis Tachwedd.
4.1% oedd y nifer o gleifion Lloegr bu’n aros dros chwe wythnos ar gyfer yr un prawf yn ystod yr un mis.
Bu i’r nifer sy’n aros am golonosgopi yng Nghymru gynyddu i 1,603 [49.3%], o gymharu â 2,503 [7%] yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd y Llywodraeth wrth golwg360:
“Ein targed yng Nghymru yw uchafswm o wyth wythnos o amser aros, gyda phobl yn aros am lai na phedair wythnos ar gyfartaledd. Ym mis Rhagfyr 2016, roedd nifer y bobl a fu’n aros am fwy nag wyth wythnos am wasanaethau diagnostig penodedig 61% yn is nag ym mis Ionawr 2014.
“Mae camau gweithredu ar y gweill yn barod i wella amseroedd aros ac rydyn ni’n disgwyl i’r byrddau iechyd wneud yn siŵr erbyn diwedd mis Mawrth nad oes neb yn aros am fwy nag wyth wythnos am sganiau MRI a CT a sganiau uwchsain nad ydynt yn rhai obstetrig.”