Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn siop yn Wrecsam neithiwr.

Digwyddodd y lladrad yn siop Premier ar Ffordd Fictoria ym Mrynteg ychydig wedi 9.30yh nos Sul, Chwefror 5.

Yn ôl yr heddlu, fe ddaeth tri dyn i mewn i’r siop gydag un ohonyn nhw’n cario cyllell gan fygwth y staff.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond mae’r heddlu’n credu fod y digwyddiad yn gysylltiedig â digwyddiadau blaenorol yn yr ardal.

Fe wnaethon nhw ddwyn dau dil cyn mynd i gyfeiriad Holbourn Crescent.

“Dyma’r trydydd digwyddiad o’r fath o fewn wythnos ac rydym yn credu fod yna gysylltiad rhyngddynt,” meddai’r Ditectif Ringyll Anne-Louise Jones.

Mae’r heddlu’n apelio ar dystion i gysylltu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod V017141.