Bydd ffilm am brofiadau tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 yn cael ei dangos am y tro cyntaf fis nesa’.
Wedi ei chyfarwyddo gan Jonny Owen, bydd Don’t take me home yn dilyn taith ein tîm cenedlaethol i rownd gynderfynol y gystadleuaeth.
Gan ganolbwyntio ar y chwaraewyr, y rheolwyr a’r cefnogwyr bydd y ffilm ddogfen yn adrodd stori “ffefrynnau annisgwyl” y gystadleuaeth.
Caiff y ffilm ei dangos mewn sinemâu yng ngwledydd Prydain ar Fawrth 3 ond bydd modd gweld y ffilm o flaen llaw mewn llond llaw o lefydd arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae’r cyfarwyddwr Jonny Owen wedi ei ddisgrifio gan y Guardian fel “crëwr ffilmiau gorau’r byd pêl-droed” ac yn enwog am ei ffilmiau I Believe in Miracles a Svengali.
Bydd y ffilm yn cynnwys cerddoriaeth gan y Super Furry Animals, Mogwai, Richard Hawley a’r Small Faces.
Sinemâu fydd yn dangos y ffilm:
Y Colisëwm, Aberdâr – Annibynnol
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – Annibynnol
Pen-y-bont ar Ogwr – Odeon
Brychdyn – Cineworld
Caerdydd – Cineworld
Caerdydd – Odeon
Caerdydd – Showcase
Caerdydd – Vue
Caerdydd Chapter – Annibynnol
Caerfyrddin – Vue
Cwmbran – Vue
Castell Nedd Neuadd Gwyn, Annibynnol
Llandudno – Cineworld
Llanelli – Odeon
Tywyn Magic Lantern – Annibynnol
Merthyr Tudful – Vue
Casnewydd – Cineworld
Canolfan Celfyddydau Pontardawe – Annibynnol
Pontio Bangor – Annibynnol
Rhyl – Vue
Theatr Savoy Mynwy – Annibynnol
Abertawe – Odeon
Abertawe- Vue
Y Parc a’r Dâr Treorci – Annibynnol
Wrecsam – Odeon