Emyr Jones Parry (Llun: Prifysgol Aberystwyth)
Does dim modd trafod dyfodol gwledydd Prydain wedi Brexit, heb ystyried eu perthynas â gweddill y byd.
Dyna fydd un o negeseuon Canghellor Prifysgol Aberystwyth ac un o ddiplomyddion mwya blaenllaw Cymru, wrth iddo draddodi darlith ar effaith Brexit.
Ac fe fydd Syr Emyr Jones Parry hefyd yn dadlau na fydd modd cwblhau holl drafodaethau Erthygl 50 – sy’n cael eu disgrifio ganddo fel “cyfres o drafodaethau eithriadol anodd” – o fewn y ddwy flynedd sydd wedi’u clustnodi.
Fe fydd Syr Emyr Jones Parry yn traddodi’r ddarlith, dan y testun ‘Her Gweithredu Brexit a’r Oblygiadau i Bolisi Tramor Prydain’, brynhawn heddiw yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol y coleg ger y lli.
Bydd yn sôn am drafodaethau Erthygl 50, ynghyd â pherthynas y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd a chysylltiadau masnach y Deyrnas Unedig gyda gweddill y byd yn y dyfodol.
Mae Syr Emyr Jones Parry yn gyn-gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i’r Cenhedloedd Unedig ac yn aelod o grŵp ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar Brexit