Damwain lori Caerfaddon (Llun: PA)
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am ddynladdiad pedwar person a gafodd eu lladd gan lori 32 o dunelli â brêcs diffygiol.

Cafodd Matthew Gordon, 30, perchennog cwmni cludo nwyddau a Peter Wood, 55, mecanig, ddedfrydau o saith mlynedd a hanner a phum mlynedd a thri mis, yn y drefn honno.

Yn Llys y Goron Bryste fis diwethaf, cafwyd y ddau yn euog o bedwar achos o ddynladdiad ar ôl i dri dyn o Gymru a merch bedair oed gael eu lladd.

Bu farw Mitzi Steady a chafodd ei mam-gu, Margaret Rogers, anafiadau difrifol ar ôl iddyn nhw gael eu bwrw gan y lori wrth groesi’r ffordd yn dal dwylo.

Fe wnaeth y cerbyd barhau i fynd lawr bryn “serth iawn” yng Nghaerfaddon, gan ladd tri dyn mewn car.

Bu farw Stephen Vaughan, 34, o Abertawe a Philip Allen, 52, a Robert Parker, 59, o Gwmbrân, ar safle’r gwrthdrawiad.

Cafwyd gyrrwr y lori, Phillip Potter, 20, yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau oedd yn ei erbyn.

“Bod yn ddidaro wedi peryglu bywydau”

Dywedodd yr Ustus Langstaff wrth gyhoeddi’r ddedfryd ei fod yn cydnabod nad oedd y ddau wedi bwriadu achosi niwed ond bod nhw wedi methu cynnal a chadw’r cerbyd trwm.

“Rwy’n derbyn nad oeddech chi wedi bwriadu [achosi] marwolaeth na niwed na hyd yn oed i’r brêcs fethu,” meddai.

“Doeddech chi ddim yn dymuno hynny. Ond y ffaith yw, mae lori mor drwm â hyn yn debygol o achosi niwed difrifol a marwolaeth i’r cyhoedd os nad yw’n cael ei gadw’n iawn.

“Mae’r brêcs yn hollbwysig. Rydych chi’n gwybod hyn. Roeddech yn gwybod bod bod yn ddidaro am ddiogelwch wedi rhoi bywydau eraill mewn perygl.

“Does dim modd esbonio eich methiannau. Os oedden nhw’n fethiannau un tro, byddai hynny’n ddigon gael ond dydyn nhw ddim.”