Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod angen i Lywodraeth Gymru fynd i’r afael â safon isel iechyd plant ardaloedd tlota’ Cymru.
Yn ôl adroddiad y Coleg Pediatrig Brenhinol, mae tua 200,000 o blant Cymru’n byw mewn tlodi ac yn fwy tebygol o “brofi canlyniadau iechyd negyddol” o’u cymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Dywed hefyd nad yw babanod, plant a phobol ifanc sy’n byw yn ardaloedd tlota’ Cymru wedi elwa cymaint ar welliannau iechyd y ddau ddegawd diwetha’.
Caiff problemau iechyd plant o gefndiroedd tlawd eu hachosi gan nifer o ffactorau, yn cynnwys mamau’n ysmygu yn ystod beichiogrwydd, pwysau geni isel, a deiet gwael.
Dechrau’n Deg
Mae’r adroddiad yn derbyn nad oes gan Llywodraeth Cymru bwerau deddfwriaeth llawn dros nifer o feysydd allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem ond yn canmol prosiect ‘Dechrau’n Deg’ lle rhwng 2014 a 2015 cafodd gofal plant ei ddarparu i 37,260 o blant.
Er hyn, mae’r adroddiad yn awgrymu sawl gwelliant – yn cynnwys ehangu prosiect ‘Dechrau’n Deg’, a chynnig darpariaeth gyda ffocws penodol ar ofal sylfaenol.