Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi “croesawu” dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw bod yn rhaid cael sêl bendith y Senedd cyn i’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau.
Ond wrth ymateb i ddyfarniad y barnwyr nad oes rhaid cael caniatâd llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn dechrau ar y broses, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod “yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cynrychioli diddordebau Cymru a’r Deyrnas Unedig oll.”
Ychwanegodd y bydd “Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig eraill er mwyn dylanwadu safiad cyflawn y Deyrnas Unedig.”
“Ein bwriad yw cadw mynediad i’r farchnad sengl ar gyfer busnesau a diogelu swyddi a buddsoddiad yng Nghymru, ynghyd a hawliau gweithwyr.”
Plaid Cymru – ‘herio’r penderfyniad’
Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau eu bod am geisio herio’r penderfyniad heddiw drwy gyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau llais Cymru cyn dechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Steffan Lewis AC, “mae’n siomedig clywed na fydd ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig ar y mater tyngedfennol hwn.
“Mater syml o ddemocratiaeth yw i’r deddfwriaethau datganoledig gael rôl yng nghychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Allwn ni ddim caniatáu i sefydliad San Steffan ddewis setliad Brexit sy’n rhoi blaenoriaeth i’w buddiannau hwy,” meddai wedyn.
‘Cyfrannu’
Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Llywodraeth Cymru, David Rees: “Mae’n bwysig, fod pob un o wledydd y Deyrnas Unedig yn cael cyfle i gyfrannu at y broses hon.”
“Wrth edrych ymlaen, disgwyliaf i Brif Weinidog y DU gadw at yr ymrwymiad a wnaeth yr wythnos ddiwethaf y byddai’n ymgysylltu’n llawn â’r llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig.”
‘Siomedig’
Ymatebodd Aelod Cynulliad Llafur Eluned Morgan: “Mae’n siomedig nad yw Confensiwn Sewel (y cytundeb sy’n llunio’r berthynas rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig) mor gadarn yn gyfreithiol ag yr oeddwn yn gobeithio.”
Yn ôl Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geredigion Mark Williams, “Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barchu ardrefniant datganoledig Prydain a hawl y seneddau datganoledig i ddylanwadu ar sut yr ydym yn gadael Ewrop.”
‘Mater i Senedd y Deyrnas Unedig yn unig’
Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Mark Isherwood, “roedd dyfarniad heddiw yn ddisgwyliedig a’n syml, mater i’r Deyrnas Unedig a Senedd y Deyrnas Unedig yn unig yw ein perthynas gydag Ewrop.”