Mae elusen canser yn galw ar fenywod yng Nghymru i gael profion canser ceg y groth, yn dilyn cyhoeddi ffigurau sy’n dangos bod y nifer o fenywod sy’n cael profion ar ei isaf ers 10 mlynedd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd 204,100 (77.8%) o fenywod rhwng 25 a 64 oed wedi cael prawf yn 2015-16, sef y nifer isaf ers 2006-07.

Ond cafodd 264,700 wahoddiad i gael prawf.

Serch hynny, Cymru sydd â’r record orau am gynnal profion.

Mae Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo yn rhybuddio y gallai bywydau gael eu colli pe bai’r nifer yn codi ymhellach.

Ar drothwy Wythnos Atal Canser Ceg y Groth, sy’n dechrau ddydd Sul, mae’r elusen wedi lansio ymgyrch ar wefannau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #SmearForSmear.