Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a sgwter ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr brynhawn ddoe.

Tarodd car Renault Megane y sgwter am oddeutu 3.07pm, a chafodd y gyrrwr 31 oed anafiadau difrifol.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae’r Heddlu wedi apelio am dystion, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.