Rebecca Evans AC
Heddiw bydd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn sôn am beryglon cyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd.
Yn ystod ei haraith yn Stadiwm Principality, bydd Rebecca Evans AC yn trafod her gynyddol y defnydd o’r cyffuriau hyn yn enwedig mewn ardaloedd yn y de.
Gan amlaf dynion ifanc sy’n defnyddio’r cyffuriau sydd yn medru arwain at wella eu perfformiad mewn chwaraeon a newid eu hymddangosiad.
Gall defnyddio’r sylweddau yma arwain at niwed i’r iau, clefyd y galon, problemau iechyd meddwl ac yn ôl ymchwil yng Nghymru mae defnydd o gyffuriau o’r fath ar gynnydd.
“Diwylliant” beryglus
“Mae’n peri gofid bod cynifer o bobl ifanc, yn enwedig dynion, yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon er lles delwedd a bod rhai wedyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol,” meddai Rebecca Evans.
“Rhaid i ni droi’r diwylliant hwn ar ei ben os ydyn ni am warchod cenhedlaeth gyfan o bobol ifanc rhag y sgil effeithiau difrifol y gall y cyffuriau hyn eu hachosi.”