Mark Williams, Aelod Seneddol Ceredigion
Mae Aelod Seneddol Ceredigion yn “siomedig iawn” â’r modd yr aeth trafodaethau am ddyfodol S4C yn San Steffan heddiw.
Fe fu gwleidyddion yn trafod, yn benodol, pryd fydd adolygiad o’r Sianel yn digwydd – ond mae Mark Williams, AS y Democratiaid Rhyddfryfol tros Geredigion, yn dweud bod manylion a dyddiadau yn bethau prin iawn gan gynrychiolwyr y DCMS (Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth Prydain).
“Dw i’n siomedig, yn amlwg,” meddai wrth golwg360. “Un o fy mhrif gwestiynau oedd pam nag ydyn ni wedi cael yr adolygiad eto?
“Mae rhaglenni fel Y Gwyll yn symud ymlaen mewn ffordd bositif yng Ngheredigion ac maen nhw’n haeddu sicrwydd bydd eu cyllideb yn ddiogel tan ddaw’r adolygiad i gasgliad,” meddai wedyn.
“Ond dyw’r Ysgrifennydd heb ddweud pryd fydd yr adolygiad yn dechrau, heb sôn am orffen, a dw i’n meddwl bod hynny yn peri gofid.”
Toriad “sylweddol”
Gan gyfeirio at y cadarnhad y bydd yr arian sy’n dod i S4C gan y DCMS yn lleihau o £6.762 miliwn i £6.058 miliwn yn 2017-18, meddai Mark Williams: “Mae lleihad o tua £800,000, pan ydyn ni’n sôn am gyllideb o £6m, yn swm mawr, yn swm sylweddol i sefydliad fel S4C.
“Mae angen amddiffyn cyllideb S4C… rwy’n rhagweld y byddwn ni’n ymgyrchu ar hyn gydag egni tan ein bod yn cael atebion.
“Mae’n rhaid iddyn nhw ddeall pwysigrwydd S4C i Gymru, ac ro’n i’n teimlo ei bod hi’n bwysig fy mod yn eu hatgoffa o hanes a llwyddiannau S4C.”